SOCIETY HISTORYThe first recorded sheepdog trial was held at Bala on October 9th 1873, organised by the late R J Price Esq of Rhiwlas Est, Bala.
(Cover for a the programme for trials held in 1979 is shown right) Click on photos to enlarge On the 9th October 1873, a day was noted for being wet and cold, the first recorded sheepdog trials in Britain were held on Garthgoch and Rhiwaedog fields. It was R J Lloyd Price of Rhiwlas who organised the first trial. Although the weather was unfavourable abot 300 spectators turned up to see the competition. Even though the majority of the competitors were Welsh, the first prize went to a Scotchman, James Thompson with his dog Tweed. Second was John Jones, Hafod, and third prize went to J Robson. Arising out of the trial on Garth Goch was the first international trial in London. James Thompson after his victory had bragged about superiority of Scottich shepherds and dogs. This hurt the pride of local shepherds who issued a challenge, declaring that they would meet the Scots or shepherds from any other country, to see who had the best dogs. R J Lloyd Price with a small committee set about organising the competition, and on the 30th of June 1876, under the auspices of the Kennel Club, trials were held at Alexandra Park in London. The catalogue of that original trial is re-produced the programme shown right, together with a photograph of the competitors. The pride of the local shepherds was restored when John Thomas of Cwm yr Aethnen won the competition. It is interesting to note that local sheep were taken all the way down to London and sold there after the trials. Things have come a long way since those early days. Sheepdog trials have become international in their appeal, with thousands of peole taking a great delight in seeing a good dog work under the careful control of its master. Today we are not only commemorating the first trials, but also we are saluting the shepherd and his dog, without them the world wold be a poorer place to live in. Long may they continue to enthrall us with their expertise. |
HANES Y GYMDEITHASCynhaliwyd Treialon Cŵn defaid cyntaf a gofnodwyd yn Bala ar 9fed o Hydref 1873. Hyrwyddwyd gan y diweddar R J Price Ysw o Rhiwlas, Bala
(Gweler clawr rhaglen o dreialon a gynhaliwyd yn 1979 ir chwith) Cliciwch ar y lluniau i'w ehangu Diben hyn o ysgrif yw cofnodi yr hyn a glywais ei adrodd am Sioe y Garth Goch, a'r hyn a ddeilliodd ohoni sef Sioe Gŵn yn Alexandra Park yn Llundain. Ymysg y papurau fy nhaid roedd yr hen gatalog a'r llun sydd yn cael ei gynnwys yn y rhaglen yma. (Lluniau i'r chiwth). Pwy fuasai'n meddwl dros gan mlynedd yn ôl y byddent yn ddogfennau mor ddiddorol i ni heddiw? A y nawfed o Hydref 1873, trefnwyd treialon cŵn defaid ar y Garth Goch a Chaeau Rhiwaedog, Y Bala a daeth James Thompson, Sgotyn oedd yn byw ym Mwlch yn Horeb, Caletwr, yn fuddugol. Teg nodi ei bod yn ddiwrnod hynod o stormus ac nad oedd cynrychiolwyr o Ysbyty Ifan ac Uwchaled, Canolfan yr Arloeswyr, wedi dod oherwydd yr ddrycin, - gwŷr fel Robert Roberts, Blaeneidda Isaf a John Jones, Nanthelin, Pentrefoelas. Ple 'roedd John Thomas Cwm Aethnen y diwrnod hwnnw? Pencampwr ar Barc Alexandra cyn pen tair blynedd. Nid oes son am ei enw ymysg cystadleuwyr Garth Goch. Ar ôl ei fuddugoliaeth, aeth Thompson i or-ymffrostio gan ddweud y byddai yn werth i'r Cymrŷ weld cŵn yr Alban yn gweithio. Nid oedd hen fugeiliad yn hoffi llawer o ymffrost, a rhoddwyd her eu bod yn fodlon cyfarfod â chŵn yr Alban neu unrhyw wlad arall. Trefnodd yr hen uchelwr R J Lloyd Price, Y Rhiwlas, ac ychydig o'r bwyllgor, i gynnal treial ym Mharc Alexandra Palace yn Llundain, ac ar y degfed ar hugain o Fehefin 1876 dan nawdd y 'Kennel Club', roedd gan y Cymry yr un amod sef fod yn rhaid cael defaid Cymreig i'w gweithio. Casglwyd myllt Llwyngwern, Maesgwyn a Thyddyn 'Ronnen o Llanuwchlyn a myllt Gadfa a Choed y Foel o Gwmtirmynach. Yn y dosbarth cyntaf, enillwyd y wobr gan John Thomas, Cwm yr Aethnen, Hirnant, gyda Modi, gast pedair oed, ac yn ôl y catalog'roedd John Thomas yn barod i'w gwerthu am £40. Yr ail daeth Robert Roberts, Blaeneidda Isa, Ysbyty Ifan gyda Nel, gast ddwyflwydd a phum mis oed ond nid oedd Robert Roberts yn barod i'w gwerthu heb £80. Yn drydydd, 'roedd John Jones Nanthelin, Pentrefoelas gyda chi chwech oed o'r enw Pentre, ac'roedd yn barod i'w gwerthu am £30. Yn bedwerydd, daeth James Glandenney, Sudbury gyda chi pedair oed o'r enw Tohio a gofynnai £105 amdano. Cymharer y gwobrau yn Alexandra Park mewn cyfatebiaeth i werth y bunt heddiw, gan gadw mewn cof gyflog llafurwr amaethyddol o chwe cheiniog y dydd. |